Cynllun Shop Watch

llantrisantMae  RCTBCRP yn cydweithio â chwmni M-R-S Communications Cyf ac aelodau o gynllun Store.Net i fynd i’r afael ag achosion o droseddu mewn siopau trwy ddefnyddio rhwydwaith gyfathrebu Store.Net.

System radio ddwyffordd sy’n cysylltu’r siopau hynny i gyd yn Rhondda Cynon Taf sy’n cymryd rhan yn y cynllun â’i gilydd, yr Heddlu, ac Uned Reoli Teledu Cylch Cyfyng ydy Store.Net.

Mae’r radios yn ffordd o rannu gwybodaeth ar faterion troseddu yn yr ardal yn gyflym, fel bod aelodau o staff diogelwch yn ymwybodol o symudiadau, disgrifiadau a chyfeiriad y troseddwyr. Bydd defnyddwyr eraill y system radio hefyd yn cael gwybod, a bydd y system yn caniatáu staff i ddilyn troseddwyr yn yr ardal a chadw mewn cysylltiad ag aelodau o staff diogelwch eraill fydd yn gallu rhoi cymorth yn ôl y gofyn.

Os bydd ymosodiad ar aelod o staff neu swyddog diogelwch, mae gan y system fotwm mewn achos o argyfwng, sydd yn anfon gwybodaeth am yr aelod o staff sydd yn cael trafferthion i bobl eraill sydd ar y system other radio. Bydd cynnau’r microffon yn awtomatig am 30 o eiliadau, ac sy’n caniatáu i’r defnyddiwr gael ei ddwylaw yn rhydd.

Prif nod cynllun Store Net ydy gostwng nifer y troseddau, tawelu meddyliau ac yn y pendraw gwella materion proffidioldeb trwy ostwng nifer yr achosion o ddwyn a niweidio.

 

 

Enw:

Ebost:

Mewngofnodi Aelodau