Yr hyn rydyn ni’n ei wneud

Gweithio trwy drefn partneriaeth ar ei orau

Sefydlwyd Partneriaeth Gostwng Nifer y Troseddau Cwm Cynon yn 2005 i fynd i’r afael ag achosion o droseddu yn Aberdâr.  Roedd hyn yn cynnwys pecyn o fanteision hollgynhwysol i fusnesau yng nghanol y dref.  

Yn 2008, roedd ail-frandio Partneriaeth Materion Gostwng Nifer y Troseddau - Byd Busnes Rhondda Cynon Taf i gydnabod datblygiad y cynllun yn bartneriaeth gostwng nifer y troseddau cyfannol sy’n mynd i’r afael â throseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol o bob math ac sydd ag effaith niweidiol ar ganol trefi yn y Fwrdeistref Sirol.

 

Beth ydy Partneriaeth Gostwng Nifer y Troseddau – Byd Busnes Rhondda Cynon Taf?

Mae Partneriaeth Gostwng Nifer y Troseddau – Byd Busnes Rhondda Cynon Taf Business yn bartneriaeth ag iddi aelodau ac sy’n cynnwys busnesau lleol, cymunedau lleol, yr awdurdod lleol a’r heddlu.

Mae’r Bartneriaeth yn mynd i’r afael â materion gostwng nifer y troseddau mewn ffordd ryngweithiol ar sail yr wybodaeth sydd ar gael.   Dyma’r unig bartneriaeth sy’n cael ei harwain gan fusnesau yn Rhondda Cynon Taf fydd o gymorth ichi fynd i’r afael ag achosion o droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eich ardal chithau.

Ein nod ydy gweithio mewn partneriaeth â’r Heddlu ac awdurdodau lleol i fynd i’r afael ag achosion o droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal, a thrwy hynny gwneud canol ein trefi yn fannau diogel ar gyfer busnesau, staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr.

 

Enw:

Ebost:

Mewngofnodi Aelodau