Cwestiynau cyffredin

Yr hyn mae’r bartneriaeth yn ei ddisgwyl gan yr aelodau

  • Ffurflenni rhoi adroddiad am ddigwyddiad wedi’u llenwi
  • Cyflwyno ffurflenni rhoi adroddiad am ddigwyddiad ar gyfer sylw’r cydlynydd materion troseddau yn brydlon.
  • Glynu wrth weithdrefnau’r bartneriaeth
  • Bod yn aelod o gynllun radio’r bartneriaeth
  • Yn barod i roi cosbau mewn grym megis cynllun rhoi rhybudd am gau allan
  • Talu’r costau priodol

Yr hyn mae’r Cydlynydd Materion Troseddau - Byd Busnes yn ei wneud?

Mae’r Cydlynydd Materion Troseddau - Byd Busnes yn casglu gwybodaeth am droseddwyr yn yr ardal a’i rhannu gyda’r aelodau. Mae hefyd yn cydlynu cynlluniau gostwng nifer y troseddau, yn casglu tystiolaeth a rhoi gorchmynion cau allan/gwahardd i dramgwyddwyr. Yn ogystal â hynny, mae’r cydlynydd yn gofalu bod pawb yn glynu wrth brotocolau’r cynllun, yn enwedig gyda golwg ar faterion diogelu data.

 

Pwy yw’r Cydlynydd Materion Troseddau – Byd Busnes?

Mae Mike Jacklin wedi bod yn Gydlynydd Materion Troseddau – Byd Busnes ers mis Mawrth 2005.  Mike yw wyneb cyhoeddus y bartneriaeth ac mae llawer o bobl yn ardal Aberdâr yn ei adnabod yn barod.  Bu Mike yn cynnal ystod o swyddi gyda Woolworths am 38 flynyddoedd ac roedd yn aelod o Siambr Fasnach Aberdâr.  Yn ogystal â hynny, mae Mike yn aelod o Gymdeithas Atal Troseddau Cwm Cynon ac wedi eistedd ar fwrdd Partneriaeth Cymunedau Diogel Rhondda Cynon Taf rhwng 2001 a 2005.  Yn ei amser hamdden, mae Mike yn gefnogwr brwd o dîm Gleision Caerdydd.


Beth yw cefndir y cysyniad?

Yn unol â Deddf Troseddu ac Anhrefn 1998, mae’r Swyddfa Gartref wedi bod yn annog cymunedau lleol i ddod â budd-ddeiliaid perthnasol at ei gilydd a sefydlu partneriaethau lleol i reoli problemau lleol.


Beth ydy Gwobrau Busnesau Mwy Diogel?

Dyma safon o arfer dda y Swyddfa Gartref i ofalu bod partneriaeith o fudd-deiliaid lleol – yn debyg i bartneriaeth RhCT. Mae’r Bartneriaeth (aelodau), yn gweithio gyda’i gilydd i ofalu bod llai o droseddu ac achosion o anhrefn yn yr ardal. Yn ogystal â hynny, mae Gwobrau Busnesau Mwy Diogel yn fframwaith sy’n eich galluogi chi i rannu gwybodaeth yn gyfreithlon.

 

Enw:

Ebost:

Mewngofnodi Aelodau